Athro wrth ei waith
Mae athrawon mewn ysgol uwchradd yn Lloegr yn bwriadu mynd ar streic er mwyn protestio yn erbyn ymddygiad treisgar a bygythiol eu myfyrwyr eu hunain.
Mae gweithwyr Ysgol Uwchradd Darwen Vale yn Darwen, Swydd Gaerhirfryn, yn dweud nad ydyn nhw wedi cael digon o gefnogaeth gan y brifathrawes.
Fe fydd tua 70 o athrawon a 1,100 o ddisgyblion yn protestio y tu allan i’r ysgol fore dydd Iau.
Pleidleisiodd aelodau undebau athrawon NUT a NASUWT bron yn unfrydol o blaid y streic a fydd yn cau’r ysgol am 24 awr. Mae undeb darlithwyr ATL ac undeb Unison hefyd yn cefnogi’r streic.
Daw’r bygythiad i streicio yn fuan ar ôl i’r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, ddweud y byddai’n cyflwyno rheolau llymach ar ymddygiad disgyblion mewn dosbarthiadau.
Dywedodd undebau eu bod nhw’n teimlo fod yr ysgol wedi mynd “tu hwnt i reolaeth” a bod disgyblion wedi bod yn gwthio a rhegi at athrawon.
Pan oedd athrawon yn cymryd ffonau symudol disgyblion oddi arnyn nhw roedd rheolwyr yr ysgol yn eu dychwelyd nhw, gan “danseilio’r athro yn llwyr,” meddai’r undebau.
“Mae’r athrawon wedi penderfynu mynd ar streic am nad yw’r prifathro yn fodlon cyfaddef fod problem ag ymddygiad disgyblion yn yr ysgol,” meddai Simon Jones o NUT.
“Mae hi wedi gwrthod trafod â gweithwyr ac undebau er mwyn datrys y problemau yma.”
Dechreuodd y Brifathrawes Hilary Torpey ei blwyddyn academaidd lawn gyntaf yn yr ysgol ym mis Medi.