Jose Socrates
Mae Prif Weinidog Portiwgal wedi cyhoeddi y bydd ei wlad yn gofyn i weddill yr Undeb Ewropeaidd am fenthyciad.
“Mae’r llywodraeth wedi penderfynu gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd am gymorth ariannol,” meddai Jose Socrates yn hwyr neithiwr.
Portiwgal yw’r drydedd wlad yn yr Ewro-dir, ar ôl Gwlad Groeg ac Iwerddon, i alw am gymorth Ewrop a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.
Mae sylwebwyr economaidd yn credu y bydd angen tua £70 biliwn ar Bortiwgal.
“Mae hwn yn amser arbennig o ddifrifol i’r wlad yma, ond dim ond gwaethygu bydd pethau os nad ydym ni’n gweithredu nawr,” meddai.
Ychwanegodd mai gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd am gymorth ariannol oedd y “dewis olaf”.
Mae rhaid o wledydd eraill Ewrop wedi bod yn annog Portiwgal i dderbyn yr arian ers peth amser, yn y gobaith o atal y problemau ariannol rhag lledu i wledydd mwy.
Ond roedd Portiwgal wedi mynnu nad oedd eisiau benthyciad mawr fyddai’n gorfodi gwlad sydd eisoes ymysg y tlodaf yng ngorllewin Ewrop i dorri yn ôl ymhellach.
Daw trafferthion Portiwgal ar ôl iddynt wario gormod yn dilyn degawd o dwf isel.