Ronan Kerr
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth yr heddwas Ronan Kerr yng Ngogledd Iwerddon wedi bod yn holi dyn.
Cafodd y dyn 26 oed ei arestio yn yr Alban ddydd Mercher ar ôl i Heddlu Gogledd Iwerddon ddod o hyd i gasgliad “arwyddocaol” o arfau.
Daethpwyd o hyd i reifflau Kalashnikov, darnau o saethwr rocedi, a ffrwydron Semtecs posib yn nwyrain Swydd Tyrone, meddai’r heddlu.
Arestiwyd y dyn yn Dunbartonshire ddoe, yr un diwrnod ag angladd yr heddwas Catholig. Galwodd y Cardinal Sean Brady am heddwch ac ymgasglodd torfeydd mawr yn Belfast er mwyn protestio yn erbyn y trais.
“Mae’r bobol wedi dweud na, byth eto, i drais drwg ac ofer,” meddai Sean Brady yn yr angladd.
Fe fu farw Ronan Kerr, 25, pan ffrwydrodd bom o dan ei gar yn Omagh, Swydd Tyrone, ddydd Sadwrn.
Mae’r llofruddiaeth wedi ei feio ar weriniaethwyr sy’n gwrthwynebu heddwch yn y wlad a’r gred yw mai’r nod oedd ceisio atal Catholigion rhag ymuno â’r heddlu.