Y Cae Ras
Mae Wrecsam wedi lansio ymgyrch i gynnal gemau Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd yn 2013.
Fe fydd y Cae Ras yn gobeithio cynnal gemau Cwpan y Byd am yr ail dro, ar ôl iddynt gynnal gêm rhwng Cymru a’r Ynysoedd Cook yn 2000.
Mae’r Rugby Football League yn chwilio am leoliadau gyda’r cyfleusterau priodol ar gyfer y gemau yng Nghymru a Lloegr.
Fe fydd y Cae Ras yn ceisio sicrhau ambell i gêm grŵp yn y gystadleuaeth yn ogystal â darparu lleoliad ar gyfer ymarferion rhai o’r timau.
Mae Cyngor Wrecsam ynghyd a’r Crusaders wedi lansio’r cynnig am gemau, ac mae hyfforddwr y clwb Cymreig, Iestyn Harris wedi cefnogi’r syniad.
“Fe fyddai’n hwb mawr i Wrecsam i gael cynnal rhai o gemau cystadleuaeth mor fawreddog,” meddai Iestyn Harris.
“Y Cae Ras yw cartref y Crusaders ac mae gennym ni gefnogwyr angerddol sy’n newydd i rygbi’r gynghrair.
“Mae’r cefnogwyr wedi croesawu’r gêm â dwylo agored a does gen i ddim amheuaeth y byddai’r Cae Ras yn llawn ar gyfer gemau Cwpan y Byd.
“Mae gennym ni stadiwm ardderchog gyda chyfleusterau gwych ac mae gan y dref lawer iawn i’w gynnig.”