Mae’r heddlu wedi galw am lygaid dystion ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol o ganlyniad i wrthdrawiad â thacsi.

Roedd dau ddyn yn cerdded i lawr stryd Trostre yn Llanelli yn oriau mân y bore dydd Sul pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Aethpwyd ag un o’r dynion i Ysbyty Treforys ac mae o mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu eisoes wedi siarad â gyrrwr y tacsi ond eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r ddau ddyn yn cerdded ar hyd y ffordd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-powys ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.