Mae gwaith yn cael ei gynnal ym mwlch Tal-y-llyn y bore ma yn dilyn tirlithriad ar y ffordd yno.

Mae’r A487 rhwng Stryd y Bont, Corris a’r A470 tan Cross Foxes ar gau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn y tirlithriad.

Mae Traffig Cymru yn dweud eu bod nhw’n dargyfeirio gyrwyr ar hyd ffyrdd gwahanol.