Bydd yr Academi Gymreig – y gymdeithas i lenorion Cymru – yn uno â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy.
Llenyddiaeth Cymru fydd enw’r corff cenedlaethol a fydd yn gyfrifol am holl asiantaethau llenyddol Cymru o fis Ebrill eleni.
Bydd yn cynnwys y sefydliad sy’n hybu gwaith llenorion Cymru dramor, y Gyfnewidfa Lên a’r Tŷ Cyfieithu, sy’n trefnu cyfleoedd i awduron o Gymru a thramor gydweithio a chyfieithu gwaith ei gilydd.
Roedd Cyngor y Celfyddydau wedi dweud yn ei Fuddsoddiad Adolygu diwethaf bod y drefn bresennol, gyda’r holl asiantaethau yn cystadlu â’i gilydd yn yr un maes, yn ‘anniben’.
“Gobeithio bydd y drefn yma yn hwylusach i’r defnyddiwr,” meddai Lleucu Siencyn, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Academi, “boed ef neu hi yn awdur, darllenydd neu’n drefnydd. Os y’ch chi eisiau awdur i siarad gyda’ch cylch llên neu gymdeithas, mynd ar gwrs, cael ysgoloriaeth, trafod llyfrau ry’ch chi newydd eu darllen, trefnu Stomp… bydd yna un lle i ddod.”
Bydd rhan o waith yr Academi yn cael ei ddatganoli o Gaerdydd i hen gartref Lloyd George yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy.
‘Gweithio gyda’n gilydd’
“Bydd yn rhoi llais unedig i lenyddiaeth,” meddai Lleucu Siencyn. “Yn lle bod pawb yn cystadlu gyda’i gilydd, r’yn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Bydd mwy o rym gyda ni i gael nawdd ehangach, sy’n bwysig iawn yn yr oes o gyni ariannol. Newyddion da yw e. Mae’r Cyngor Celfyddydau wedi dangos hyder ynom ni i ddarparu ar gyfer y sector llenyddol.”
Ac yn ôl Cadeirydd Bwrdd Rheoli, fe fydd Tŷ Newydd ar ei ennill.
“Un o’r pethau mawr mae Tŷ Newydd wedi ymdrechu efo fo dros y blynyddoedd ydi bod o’n gweithio efo cyn lleied o staff,” meddai Arwel ‘Rocet’ Jones. “Mae cael rhannu cyfrifoldebau gweinyddol efo staff ehangach yng Nghaerdydd yn gyfle i ysgafnhau baich y criw sydd yn Nhŷ Newydd, ac yn gallu gyrru’r gwaith yn ei flaen.”
Fydd dim arbedion yn cael eu gwneud yn y gwasanaeth, meddai, ac ni fydd swyddi’n cael eu colli.
“O ran y profiad o fod yn Nhŷ Newydd, dw i ddim yn disgwyl iddo newid o gwbl.”
Mae’r holl drafodaeth wedi gorfodi pob sefydliad i ailedrych ar sut maen nhw’n cynnal eu hunain, yn ôl Lleucu Siencyn.
“Mae yna ffyrdd o symleiddio’r ffordd r’yn ni’n trefnu er mwyn arbed arian,” meddai, “i fod yn siŵr bod mwy o arian yn mynd i bocedi awduron a bod mwy o werth i’n digwyddiadau ni.”
Eleni, bydd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn cael ei noddi gan siop John Lewis a’r noson wobrwyo yn digwydd mewn sinema yn hytrach na gwesty pum seren.