Mae busnesau yn nhref bysgota Cei Newydd yn bwriadu gwrthod talu am angori yno ar ôl i’r prisiau fwy na dyblu.
Mae pris angori cwch yno wedi cynyddu’n sylweddol ers y flwyddyn ddiwethaf, ac mae pysgotwyr a busnesau yn pryderu y bydd y baich ariannol yr ormod iddyn nhw.
Mae Cyngor Ceredigion wedi penderfynu mwy na dyblu’r prisiau er mwyn cyd-fynd â phrisiau harbwrs eraill ar hyd yr arfordir – ond mae busnesau’n dadlau bod y rheiny’n llefydd prysurach.
Dywedodd Jamie Briddon, un o bysgotwyr Cei Newydd, fod aelodau Cymdeithas Pysgotwyr Bae Ceredigion yn bwriadu gwrthod talu’r ffioedd newydd nes cael atebion i rai o’u pryderon ynglŷn â’r cynnydd mewn costau.
“Roedden ni’n arfer talu ychydig dros £150 y flwyddyn am angorfa, ond eleni fe fydd rhaid i mi dalu dros £380,” meddai Jamie Briddon.
“Does dim esboniad wedi bod ynglŷn â’r cynnydd mewn costau. Fydd yna ddim cyfleusterau newydd yn cael eu cynnig oherwydd y cynnydd chwaith.
“Fe fydd hyn yn ergyd fawr i’r diwydiant pysgota a thwristiaeth yng Nghei Newydd. Fe fydd rhaid adennill yr arian o rywle ac fe fydd rhaid i brisiau pysgod godi.”
‘Help i reoli’
Ond mae perchennog tri chwch teithwyr yng Nghei Newydd, Winston Evans, yn credu mai pwrpas y cynnydd mewn prisiau yw helpu rheoli nifer y cychod yn y dref a diogelu busnesau’r perchnogion presennol.
Fe fydd rhaid i Winston Evans dalu £744.19 am angorfa i’w gwch mwyaf – o’i gymharu tua £250 y llynedd – tra bod angorfeydd y ddau arall yn mynd i fod yn £511.67 yr un.
Er ei fod yn cydnabod bod y codiad mewn prisiau’n sylweddol, dyw e ddim yn disgwyl y bydd unrhyw gostau ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
“Sa’ i’n mynd i achwyn am y prisiau, ac er bod prisiau wedi codi sa’ i’n credu ei fod yn mynd i fod yn straen ormodol ar y diwydiant yma,” meddai Winston Evans.