Adeilad y Cynulliad
Fe fydd yna weithred symbolaidd bwysig yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, gyda’r disgwyl y bydd ACau’n cefnogi Gorchymyn sy’n sicrhau hawliau deddfu newydd y corff.
Fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn cynnig y Gorchymyn a ddaw i rym ar ddechrau’r Cynulliad nesa’ wedi’r etholiadau ar 5 Mai.
Hwnnw sy’n cadarnhau penderfyniad y refferendwm ddechrau’r mis, gan roi’r grym llawn i’r Cynulliad wneud deddfau mewn meysydd sydd wedi eu datganoli.
Am y tro cynta’, fydd dim rhaid cael caniatâd gan y Senedd yn San Steffan cyn gweithredu ac fe ddywedodd Carwyn Jones ei fod yn falch iawn o’r anrhydedd.
‘Aeddfedu’ – sylwadau Carwyn Jones
“Ar ôl i bobol Cymru bleidleisio ie, mae’n bryd i ni fynd i’r lefel nesaf o lywodraeth,” meddai’r Prif Weinidog. “Mae Cymru, sy’n wlad â hanes hir a balch, bellach yn aeddfedu.
“Bydd modd i’r Cynulliad greu deddfau penodol i Gymru i gefnogi’i bolisïau a gwireddu’i uchelgeisiau.
“Cael y gallu i gyflwyno ein deddfau ein hunain ar sail anghenion pobol Cymru yw un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes ein gwlad falch.”