Llys y Goron Abertawe
Fe fydd yn rhaid i ddyn a gafwyd yn euog o werthu teganau ffug dalu £351,599 yn ôl o’r elw a wnaeth.

Yn ôl yr heddlu, roedd lle i gredu bod Bipan Kumar Rajani, a oedd yn gwerthu o stondin yn Ffair Castell Nedd, wedi gwneud cymaint â £1.2 miliwn o’i weithgareddau troseddol.

Roedd wedi ei gael yn euog yn Rhagfyr, 2009, a’i orfodi i wneud gwaith cymunedol, ac fe roddodd y llys hawl i ymchwilwyr edrych ar ei gefndir ariannol.

Fe ddangosodd hynny nad oedd Rajani wedi datgan unrhyw incwm o bwys am nifer o flynyddoedd er ei fod yn berchen ar dy moethus a phortffolio o eiddo.

Yn ôl tystiolaeth a roddwyd i Lys y Goron Abertawe, roedd Rajani wedi talu am lawer o hynny trwy ei weithgareddau anghyfreithlon – gan gynnwys twyll morgeisi hefyd – ac roedd wedi methu â dangos bod yr arian wedi dod o ffynonellau cyfreithlon.

O dan Ddeddf Enillion Troseddol 2002, roedd gan y llys hawl i fynd ag eiddo oddi arno ac fe gafodd Rajani chwech mis i dalu neu wynebu 42 mis o ‘dan glo.

Dywedodd Chris Hodd, pennaeth y Tîm Adfer Asedau Rhanbarthol  bod Rajani wedi “gwneud ffortiwn o ffugio nwyddau a thwyll morgais, ac yn awr mae am golli popeth”. Roedd y ddedfryd, meddai, yn benllanw i ddwy flynedd a hanner o waith.