Mae dynes fu farw mewn tân mewn tŷ ym Mwcle, Sir y Fflint, dros y penwythnos wedi ei henwi heddiw.

Daethpwyd o hyd i gorff Kirsty Weaver, 31 oed, mewn adeilad ar Frazer Drive, Bwcle, ar ôl i gymdogion alw’r gwasanaethau brys am 2.50am ddydd Sadwrn.

Achubwyd bachgen dwy oed o’r fflamau ac aethpwyd ag ef i’r ysbyty i’w drin am anadlu mwg. Cafodd ci anwes hefyd ei achub.

Does dim awgrym eto fod unrhyw beth amheus am y tân. Maen nhw’n credu mai cannwyll oedd wedi ei adael ynghyn ger y teledu oedd yn gyfrifol. Doedd yna ddim larwm tân yn y tŷ.

Fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal yfory.