Gig ym Maes B y llynedd
Mae Cymdeithas yr Iaith a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi penderfynu peidio â threfnu gigiau ar y cyd eleni.
Cyhoeddodd trefnwyr y Brifwyl y llynedd y byddai Cymdeithas yr Iaith yn cydweithio â nhw wrth drefnu gigs Maes B am y tair blynedd nesaf.
Daeth y penderfyniad ar ôl blynyddoedd o gystadlu brwd dros dyrfaoedd y Maes Ieuenctid.
Ond mae’r Eisteddfod wedi penderfynu cefnu ar y trefniant eleni gan ddweud bod y Gymdeithas yn parhau i drefnu eu gigs eu hunain sy’n cystadlu gydag arlwy Maes B.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, ei fod o hefyd yn anghyffyrddus gyda neges wleidyddol gigiau’r Gymdeithas.
“Roedden ni’n barod i gael negeseuon yn annog pobol i ddefnyddio a dysgu’r Gymraeg ond ddim am weld negeseuon oedd yn targedu un blaid neu’r llall,” meddai.
“Doedd dim pwynt i’r Eisteddfod gydweithio a thalu ffi i’r Gymdeithas farchnata’r gigs pan maen nhw’n cynnal eu gigs eu hunain.”
Y llynedd roedd y Gymdeithas wedi addo trefnu gigs amgen mewn canolfannau bychain oedd yn dal llai na 150 o bobol.
Ond eleni roedden nhw wedi llogi canolfan yn Wrecsam “sy’n dal o leiaf 600 o bobol,” meddai Elfed Roberts.
Er bod y gigs yn rhai “gwahanol” i’w harlwy nhw “does dim modd gwadu y bydd yna gystadleuaeth,” meddai.
‘Dim cystadleuaeth’
Dywedodd Osian Jones nad yw’n credu fod gigiau Cymdeithas yr Iaith yn mynd i gystadlu yn erbyn rhai’r Eisteddfod, am eu bod nhw’n cynnig “rywbeth gwahanol” i’r brifwyl.
“Rydyn ni wedi gwneud penderfyniad fel pwyllgor trefnu i beidio cystadlu efo Maes B lenni ac i gynnig rhywbeth gwahanol ein hunain,” meddai.
“Rydyn ni’n teimlo ein bod ni eisiau i’n gigs ni i fod yn lot fwy gwleidyddol ei naws,” meddai.
“Fedrwn ni ddim gwneud hyn drwy gydweithio â’r Steddfod gan eu bod yn derbyn arian cyhoeddus…” meddai Osian cyn nodi mai “penderfyniad yr Eisteddfod” oedd dod a’r cytundeb i ben eleni
“I’r Steddfod, mae gigs amgen yn gigs bach â bandiau llai. Ond i ni, gigs â naws gwleidyddol ydyn nhw, gigs na fedr yr Eisteddfod eu cynnig.”
Dywedodd fod yr Eisteddfod yn “anghyfforddus” â’r elfen wleidyddol ac maen nhw oedd eisiau dod â’r cytundeb i ben.
“Rydan ni wedi bod yn rhan o’r ŵyl ers degawdau – dydyn ni ddim yn teimlo ein bod ni’n mynd benben â nhw,” meddai.
‘Mater o egwyddor’
Serch hynny dywedodd nad oedd yn cytuno â phenderfyniad yr Eisteddfod i ofyn i gerddorion arwyddo cytundebau oedd yn golygu nad oedden nhw’n gallu chwarae yng ngigiau’r Gymdeithas.
“Mae’r Eisteddfod mor bwysig i iaith a diwylliant Cymru, mae’n bwysig bod bandiau’n cael y cyfle i chwarae gymaint ag y maen nhw’n gallu,” meddai Osian Jones o’r Gymdeithas.
“Mae’r Eisteddfod yn wythnos bwysig sy’n gyfle i ddangos Cymru ar ei gorau.”
Cadarnhaodd bod Bryn Fôn ymysg y bandiau oedd wedi gwrthod arwyddo cytundeb i berfformio ym Maes B yn unig, gan dderbyn gwahoddiad i chwarae yn gigs y Gymdeithas yn lle.
Mae “ambell i gerddor enwog iawn wedi peidio arwyddo cytundeb egsglwsif”, meddai. “Mae gweld bandiau egwyddorol yn beth braf”.
‘Synnwyr busnes’
Ond dywedodd Elfed Roberts mai “synnwyr cyffredin, a synnwyr busnes” ydi cytundebau egsglwsif a bod trefnwyr gwyliau ar hyd a lled y wlad yn gwneud yr un peth.
“Does dim byd yn newydd yn y cytundebau egsglwsif hyn,” meddai. “Rydyn ni’n ei wneud o er mwyn cael gig egsglwsif sydd yn apelio.
“Mae ffi’r cerddorion yn adlewyrchu’r ffaith nad ydyn nhw’n gallu chwarae mewn llefydd eraill.
“Does dim gorfodaeth arnyn nhw. Rydan ni’n trafod y peth – ac maen nhw’n ei wneud o’i gwirfodd,” meddai.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro ar Fferm Bers Isafo 30 Gorffennaf – 6 Awst eleni.
Gigs y Gymdeithas
Cynhelir gigs Cymdeithas yr Iaith yn un o brif glybiau nos yr ardal – Gorsaf Ganolog Wrecsam – a bydd y tocynnau ar werth o fis Mai ymlaen.
“Mae’n grêt ein bod yn gallu cynnal y gigs hyn yn un o glybiau gorau Cymru yng nghanol tre Wrecsam ac mewn cydweithrediad gyda nifer o grwpiau cymunedol,” meddai Osian Jones.
“Yr ydym yn arbennig o falch fod band ifanc lleol o’r dref ‘Mother of 6’ yn chwarae ar y nos Sadwrn olaf a’u bod yn prysur creu set Gymraeg ar gyfer y gig. Cynhelir y gig ar y cyd gyda’r grwp pwyso lleol “Deffro’r Ddraig”
Ymysg uchafbwyntiau’r wythnos fe fydd:
• Nos Lun 1af Awst – Noson o gomedi gwleidyddol a set gan Dr Hywel Ffiaidd, sef Dyfed Tomos y canwr a’r actor o Rhos
• Nos Fawrth 2 Awst – Gig Rhyddhau Siarter “Tynged yr Iaith – Dyfodol ein Cymunedau” gyda Bryn Fon a’r Band, Al Lewis, Daniel Lloyd a’r Saethau.
• Nos Fercher 3 Awst – Gig Cyhoeddi 2012 yn Flwyddyn Dathlu 50mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith. Bydd Mici Plwm yn cyflwyno cerddoriaeth a ffilm o 50 mlynedd o ymgyrchu dros y Gymraeg a chanu roc Cymraeg. Ymhlith y gwesteion arbennig bydd Maffia Mr Huws, Heather Jones ynghyd a bandiau cyfoes i ddangos fod y frwydr yn parhau.
• Nos Iau 4 Awst – Gig yn erbyn Y TORI-adau, gan adlewyrchu protest ar y maes yr un diwrnod. Bydd Llwybr Llaethog, Dai Cefn, Crash Disgo ac eraill yn gyrru’r “Tren Trydan”. Bydd nifer o Undebwyr ac ymgyrchwyr lleol yn rhan o’r trefniadau.
• Nos Wener 5 Awst – Gig dros Heddwch Rhyngwladol “Yr Eryr a’r Golomen” gyda Meic Stevens a’r band a llu o artistiaid eraill. Am hanner nos bydd munud o dawelwch i gofio Hiroshima, a byddwn yn cofio eleni wrth gwrs y rhai sy’n diodde o ganlyniad i’r daeargryn a’r tsunami. Trefnir gyda Grwpiau Heddwch lleol.
“Yn dilyn y bygythiadau i gymunedau lleol Cymru ac i S4C, fe benderfynodd Cymdeithas yr Iaith fod rhaid i’n holl weithgareddau yn yr Eisteddfod eleni – yn cynnwys ein gigs – ymateb i’r bygythiadiau hynny,” meddai Ieuan Roberts, aelod o bwyllgor trefnu lleol y Gymdeithas.
“Rydym yn prysur fynd yn ôl i’r 70au a’r 60au lle roedd yn rhaid brwydro bob munud dros yr iaith. Heddiw, fel yn y gorffennol, rhaid i ni sefyll gyda’n gilydd.”