Logo'r cwmni ar eu gwefan
Mae sylfaenydd un o brif gwmnïau cyfreithiol Cymru wedi cael ei atal o’i waith oherwydd ymchwiliad gan y Swyddfa Dwyll Difrifol.
Mae partner arall yng nghwmni M&A o Gaerdydd hefyd wedi cael ei atal yn ôl datganiad ffurfiol ar eu gwefan.
Alan Whiteley oedd sylfaenydd y cwmni yn ôl yn 1999 ac mae ef ac Eric Evans wedi eu hatal am y tro. Yn ôl y cwmni, nhw eu hunain oedd wedi tynnu sylw’r Swyddfa Dwyll ac roedd yr ymchwiliad wedi codi o hynny.
Mae’n ymddangos bod yr ymchwiliad ymwneud â phrosiect gydag un o gleientiaid y cwmni, sy’n arbenigo ar gyfraith busnes ac yn gweithredu mewn prosiectau menter.
Oherwydd bod yr ymchwiliad yn parhau, mae’r cwmni’n dweud na allan nhw ddim rhoi rhagor o fanylion ond maen nhw’n pwysleisio eu bod yn ceisio sicrhau na fydd cleientiaid eraill yn cael eu heffeithio.
Ers y dechrau, mae’r cwmni wedi tyfu i gyflogi 12 o bartneriaid a 60 o staff.