Lluniau teledu o'r tsunami yn yr ardal
Mae’r diffoddwyr tân o Gymru sy’n gweithio yn ardal y trychineb yn Japan yn fyw ac yn iach ac yn glir o ardaloedd lle mae ymbelydredd peryglus, meddai eu rheolwyr.

Ond mae arweinydd y tîm o Wasanaeth Tân ac Achub Dyfed-Powys yn dweud bod yr amodau’n galed iawn a’r difrod yn ddychrynllyd.

“Mae graddfa’r distryw’n anhygoel bron,” meddai Gwyn Lewis. “Mae’r amodau’n heriol ofnadwy ond r’yn ni’n gwneud ein gorau.”

Mae’n un o dîm o saith o ddynion a phedwar ci achub sydd wedi eu hanfon i’r wlad, ond lleihau y mae’r gobaith o ddod o hyd i unrhyw un sy’n fyw o hyd.

Ar hyn o bryd, maen nhw mewn ardal o’r enw Kamaisha, bron ugain milltir o ganolbwynt y daeargryn a drawodd y wlad ddydd Gwener. Roedd hi hefyd wedi ei heffeithio gan y tsunami a ddilynodd.

Yn ôl y Gwasanaeth, mae yna drefniadau ar droed i dynnu’r dynion oddi yno os bydd angen.