Ardal y daeargryn (Chumwa CCA 3.0)
Mae’r Swyddfa Dramor yn cynghori dinasyddion o wledydd Prydain i adael prifddinas Japan ac ardaloedd gogleddol gerllaw atomfa Fukushima Dai-ichi.

Yn y cyfamser, mae’r timau argyfwng lleol wedi bod yn defnyddio hofrenyddion milwrol i chwistrellu dŵr môr i geisio oeri rhai o’r chwech adweithydd yn y gwaith niwclear a gafodd ei daro gan y daeargryn a’r tsunami ddydd Gwener.

Mae ymbelydredd wedi bod yn gollwng o’r atomfa a ffrwydradau a thanau wedi bod yn rhai o’r adweithyddion. Yn ôl adroddiadau yn yr Unol Daleithiau mae dŵr yn brin yn un o’r pyllau sy’n oeri’r gwaith.

Mae adroddiadau eraill yn awgrymu bod y dŵr yn berwi mewn dau o’r adweithyddion gyda dau arall mewn peryg o or-boethi.

Cymraes yn ystyried gadael

Mae Cymraes sy’n byw yn Japan yn cael ei dyfynnu gan asiantaeth newyddion y PA yn dweud ei bod hi’n ystyried dilyn cyngor y Swyddfa Dramor a gadael eu cartref ger Tokyo.

“Mae fy ngŵr a finnau wedi bod yn trafod ein dewisiadau,” meddai Jenny Tamara Spragg, 33 oed, sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd.

“Ar hyn o bryd, r’yn ni’n creu cynlluniau fel y byddwn ni’n barod i adael os bydd angen.”

Miloedd o gyrff

Yn ôl y Swyddfa Dramor, fe ddylai unrhyw ddinasyddion Prydeinig sy’n byw o fewn 80km i’r atomfa fod yn ystyried gadael. Fel arall, fe ddylen nhw aros yn eu cartrefi gyda ffenestri a drysau ynghau.

Erbyn hyn, mae nifer y cyrff sydd wedi eu ffeindio ers y trychineb dwbl wedi codi i 4,300, gyda disgwyl y bydd y rhif yn codi i 10,000. Mae 452,000 yn ddigartre’ ac yn cael lloches mewn adeiladau cyhoeddus.