Un o'r prosiectau chwaraeon ar waith yng Nghaerdydd
Mae Chwaraeon Cymru wedi dweud bod chwaraeon yn cael eu defnyddio fwy a mwy er mwyn mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae sawl prosiect wedi cael eu cynnal ar draws Gymru wrth i’r sefydliad chwaraeon geisio profi bod chwaraeon yn “weithiwr cymdeithasol cudd”.
Un enghraifft o’r prosiectau sy’n cael eu cynnal yw’r amrywiaeth o chwaraeon oedd yn cael eu cynnig mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghaerdydd
Mae pêl droed, futsal, hoci stryd a golff ymhlith nifer fawr o chwaraeon sy’n cael eu defnyddio yn yr ardal er mwyn helpu i gyfoethogi a chynnig canolbwynt newydd i fywydau’r plant a’r bobl ifanc sy’n byw ynddynt.
Mae gostyngiad o 15% mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael ei weld yn yr ardaloedd hynny o’r brifddinas.
‘Ysbrydoli gweithgarwch’
“Ein nod ni yw atgoffa pobl am y manteision y gall chwaraeon eu cynnig,” meddai cadeirydd Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister. “Seb Coe a ddywedodd fod chwaraeon yn ‘weithiwr cymdeithasol cudd’ a dw i’n llwyr gredu bod hynny’n wir yng Nghymru.
“Fe wyddon ni fod diflastod yn gallu arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol a dyna pam ei bod yn hanfodol bod y sector chwaraeon yn gallu cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled y wlad. Ar ben hynny, mae’n rhaid i’r pwyslais fod ar ysbrydoli gweithgarwch sy’n cael ei sbarduno gan bobl ifanc.
“Mae chwaraeon yn addysgu, yn cymell ac yn cynnig ffocws cwbl newydd i bobl ifanc. Er enghraifft, ceir trac beicio yn y Porth, Rhondda, sydd, yn ôl Heddlu De Cymru, wedi arwain at ostyngiad o 30% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Hefyd, rydym wedi gweld Ymddiriedolaeth Bêl Droed Cymru’n defnyddio’r gêm i oresgyn tyndra hiliol ar stad Parc Caia yn Wrecsam.
“Yn y Gorllewin, rydym wedi gweld Swyddogion Cefnogaeth Gymunedol yr Heddlu’n ymwneud â’n cynlluniau i gael disgyblion ysgolion uwchradd i fod yn egnïol.
“Mae’n golygu bod y swyddogion yn gallu gweithio â’r disgyblion mewn ffordd gadarnhaol ac mae’n helpu gyda chreu perthynas well rhwng y swyddogion a’r disgyblion, fel eu bod yn teimlo’n nes at ei gilydd.”
‘Cymunedau cryfach’
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler yn credu bod chwaraeon yn “ateb perffaith er mwyn helpu i greu cymunedau cryfach.”
“Mae llawer o bobl ifanc yn cael bai ar gam am fod yn wrthgymdeithasol; mae’r rhan fwyaf ohonynt yn hel eu traed ar gornel y stryd am nad oes ganddynt unrhyw le arall i fynd nac unrhyw beth arall i’w wneud,” meddai Keith Towler.