Castell Caernarfon
Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi eu hymgeiswyr diwethaf ar gyfer etholiad y Cynulliad, yn seddi Arfon ac Aberconwy.
Maen nhw wedi dewis Christina Rees, cyn-wraig cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru, Ron Davies, yn Arfon.
Mae hi’n fargyfreithiwr a hyfforddwr sboncen ac wedi bod yn weithgar ar ran y Blaid Lafur ers 20 mlynedd.
Mae Eifion Williams, swyddog datblygiad amgylcheddol, wedi ei ddewis yn Aberconwy.
Mae ymgeisydd Aberconwy yn disodli’r cynghorydd lleol Ronnie Hughes, gamodd o’r neilltu yn dilyn trawiad ar y galon ym mis Rhagfyr.
Gadawodd cyn-ymgeisydd Arfon, Alwyn Humphreys, y blaid yn dilyn ffraeo rhyngddo ef ac aelodau Llafur yn Ne Clwyd.