Mae cynnydd wedi bod yn y nifer o bobol sydd yn cael eu derbyn i ysbytai Cymru yn gysylltiedig â chocên a chanabis.
Yn ôl ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae nifer derbyniadau ysbyty yn gysylltiedig â chocên wedi cynyddu gan 81% ac wedi codi 73% i ganabis – a sylweddau canabinoid.
Er hynny mae’r corff yn nodi bod y nifer o bobol sydd yn cael trafferthion ag alcohol yn parhau dros ddwywaith yn uwch na’r nifer sy’n cael eu heffeithio gan gyffuriau.
Mae niferoedd pobol ifanc sy’n cael eu derbyn i ysbytai oherwydd defnydd o alcohol a chyffuriau wedi gostwng – gan eithrio’r rheiny sydd yn defnyddio sylweddau canabinoid a chocên.
“Newidiadau mawr”
“Er ei bod yn galonogol gweld bod camddefnyddio alcohol a chyffuriau ymhlith y rhai 25 oed yn parhau i ostwng, mae’r data hefyd wedi amlygu newidiadau mawr ym mhatrwm camddefnyddio alcohol a sylweddau,” meddai Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau’r ICC.
“Mae’r cynnydd mewn niwed sy’n gysylltiedig â chanabis a chanabinoidau yn arbennig o heriol i’w dehongli. Mae hyn yn rhannol oherwydd y twf yn y defnydd o … ganabinoidau synthetig gan gynnwys ‘Spice’.”