Llun: PA
Mae wedi dod i’r amlwg y bydd rhaglen sydd yn gofalu am bobol fregus yn cael ei gwtogi gan Lywodraeth Cymru.

Daw’r newyddion yn sgil cyhoeddiad manylion llawn Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Ymysg toriadau sydd wedi eu cyhoeddi mae toriad gwerth bron i £125 miliwn i raglen ‘Gofalu am Bobol’.

Cafodd y gyllideb ddrafft gwerth £15 biliwn ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau’r mis, ac ynddi mae cyfraddau a bandiau dros ddwy dreth newydd – y dreth tirlenwi a’r dreth trafodion tir.

Mae’r gyllideb hefyd yn cynnwys y cytundeb a gyhoeddwyd yn ddiweddar â Phlaid Cymru a fydd yn “darparu sefydlogrwydd” i wasanaethau cyhoeddus Cymru.