Matthew Scully-Hicks (Llun: PA)
Mae’r amddiffyniad yn achos llofruddiaeth merch 18 mis oed wedi bod yn cyflwyno eu tystiolaeth heddiw.
Cafodd Elsie Scully-Hicks ei rhuthro i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ar 25 Mai 2016 ar ôl iddi gael trawiad ar y galon yn ei chartref yn Llandaf, pan oedd yng ngofal Matthew Scully-Hicks, 31, a oedd wedi’i mabwysiadu.
Bu farw Elsie bedwar diwrnod yn ddiweddarach a darganfu meddygon ei bod yn dioddef o waedlif ar ei hymennydd ac wedi torri ei phenglog, tri o’i hasennau a’i choes.
Mae Matthew Scully-Hicks, hyfforddwr ffitrwydd rhan amser, wedi’i gyhuddo o achosi’r anafiadau a arweiniodd at farwolaeth y ferch fach, bythefnos ar ôl iddo ei mabwysiadu’n ffurfiol gyda’i ŵr, Craig Scully-Hicks, 36.
Mae Matthew Scully-Hicks yn gwadu ei llofruddio.
Fitamin D
Wrth roi tystiolaeth heddiw yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd yr Athro Michael Holick, wrth gyflwyno tystiolaeth ar ran yr amddiffyniad, ei fod o’r farn bod Elsie yn dioddef o ddiffyg fitamin D a bod hynny wedi achosi iddi gael esgyrn brau.
Roedd yr Athro Michael Holick, sy’n arbenigo mewn fitamin D, yn rhoi tystiolaeth drwy gyswllt fideo o Boston.
Dywedodd “nad oedd amheuaeth” bod ganddi ddiffyg fitamin D a’i bod felly mewn perygl o ddioddef o’r clefyd esgyrn y llechau (rickets).
Ond wrth gael ei holi gan Paul Lewis QC ar ran yr erlyniad, dywedodd nad oedd gan y llechau unrhyw beth i’w wneud a’i gwaedlif.
Mae’r achos yn parhau.