Marc Rees a Caroline Finn, Cyfarwyddwr Artistig (Llun: Cwmni Daws Cenedlaethol Cymru)
Mae cynhyrchiad arbennig yn cael ei berfformio yng Nghymru’r wythnos hon i gofio can mlynedd ers chwyldro Rwsia yn 1917.
Mae Parade yn gynhyrchiad gan Gwmni Dawns Genedlaethol Cymru, ac mae’n ail-gread o’r perfformiad gwreiddiol gan Ballet Russes ym Mharis yn 1917.
Mae’r perfformiad wedi’i ddatblygu gan Marc Rees sy’n disgrifio’r darn gwreiddiol yn “un o’r mwyaf arloesol a chwyldroadol a lwyfannwyd erioed.”
“Felly mi oedd hi’n eithaf anrhydedd i gael y cyfle i’w ail-ddehongli, a chreu cyd-destun newydd iddo,” meddai wrth golwg360.
‘Cyd-destun newydd’
Mae’r perfformiad yn gyfuniad o ddawns, cerddoriaeth, ffilmiau a gwaith celfyddydol a fydd yn cael ei berfformio yng Nghaerdydd a Bangor yr wythnos hon.
“Roedd hi’n bwysig inni roi rhyw fath o deyrnged i’r darn gwreiddiol, ond roedden ni hefyd am greu cyd-destun newydd,” meddai Marc Rees gan sôn y bydd ffigurau o hanes Cymru’n ymddangos yn y gwaith gan gynnwys Owain Glyndŵr, Merched Beca a’r Dywysoges Gwenllïan.
“Mae’n bwysig i unrhyw gelfyddyd edrych ar bethau mewn cyd-destun gwleidyddol, ac mae hwn yn gyfle inni ddweud rhywbeth am ein sefyllfa heddiw wrth edrych yn ôl ar y can mlynedd diwethaf,” meddai.
Mi gafodd Parade ei berfformio’n wreiddiol ar 18 Mai 1917 gan blethu syniadau newydd o ran dawns, cerddoriaeth a gwisgoedd, ond mi gafodd ei feirniadu’n hallt gan rai.
P.A.R.A.D.E Trailer #1 from National Dance Company Wales on Vimeo.
Cymru – Rwsia
Mae’r perfformiad yn rhan o raglen ‘Cymru Rwsia 2017’ i gofio canrif ers y chwyldro.
“Roedd cysylltiadau pwysig rhwng Cymru a Rwsia gyda Lenin wedi ysgrifennu llythyron at y glowyr yn y Cymoedd,” meddai Marc Rees.
“Ond mi fyddwn ni’n dathlu’r chwyldro celfyddydol a ddaeth drwy’r bale hwn, gan ddod yn enedigaeth ar foderniaeth,” meddai.
Perfformiadau PARADE…
- Canolfan Mileniwm Cymru Caerdydd – Hydref 24 – 25
- Canolfan Pontio, Bangor – Hydref 28 – 29