Mae rhan fwya’r ffyrdd a rheilffyrdd ledled Cymru a gafodd eu cau yn sgil Storm Brian ddoe wedi’u hagor unwaith eto heddiw.

Roedd y gwyntoedd ar eu cryfaf yn Aberdaron a Chapel Curig (78 milltir yr awr), ac roedd rhannau helaeth o’r de heb drydan am gyfnodau yn ystod y dydd ddoe.

Mae rhybudd am lifogydd o hyd yn Nhrefriw.

Mae pont Llansawel ger Castell-nedd, ail bont Hafren a phont Cleddau yn Sir Benfro ar agor unwaith eto.

Ond mae pont Britannia ynghau i gerbydau uchel o hyd.

Trenau

Cafodd y rheilffyrdd rhwng Maesteg a Thondu, a Phorthmadog a Phwllheli eu cau.

Ac roedd trên wedi taro coeden yn Sir Caerffili, ond ni chafodd unrhyw un anafiadau. Agorodd y rheilffordd rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy neithiwr.

Ond mae rhybudd i deithwyr o hyd i beidio â theithio ar hyd yr arfordir rhwng Pwllheli neu Aberystwyth ac Amwythig.

Mae disgwyl rhagor o oedi ar drenau heddiw gan fod cyfyngiadau cyflymdra yn eu lle o hyd.

Roedd ffyrdd yn Aberystwyth ac Aberaeron yng Ngheredigion ynghau gydol y dydd ddoe.

Ac roedd hyd at 1,700 o gartrefi heb drydan, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw yng Nghaerffili a Threfdraeth yn Sir Benfro.