Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol yn galw am ddiddymu targed Llywodraeth Cymru i sicrhau bod holl ddisgyblion Cymru’n dilyn cwrs Bagloriaeth Cymru.

Daw’r alwad yn dilyn awgrym bod disgyblion sy’n dilyn y cwrs Safon Uwch o dan anfantais wrth wneud cais am le yn rhai o brifysgolion elit gwledydd Prydain.

Mae llefarydd addysg y blaid, Darren Millar wedi mynegi pryder yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth oedd wedi datgan na chafodd unrhyw gynigion eu gwneud gan dair prif brifysgol gwledydd Prydain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd yn cynnwys Bagloriaeth Cymru.

Cafodd 153 o gynigion di-amod eu cyflwyno i fyfyrwyr o Gymru gan Rydychen a Chaergrawnt yn 2017, ond yr un ohonyn nhw’n gofyn am Fagloriaeth Cymru.

Dydy Coleg Imperial Llundain ddim wedi datgan sawl cynnig dderbyniodd myfyrwyr o Gymru ganddyn nhw, ond fe gadarnhaon nhw nad ydyn nhw’n gwneud cynigion sy’n cynnwys Bagloriaeth Cymru.

O blith y 19 prifysgol sy’n rhan o Grŵp Russell, roedd 14 ohonyn nhw wedi gwneud mwy o gynigion heb Fagloriaeth Cymru na chynigion gyda’r cymhwyster.

Mae Llywodraeth Cymru’n annog pob ysgol i sicrhau bod disgyblion yn dilyn y cwrs, gan anelu am darged 100% erbyn 2020.

Pwysau

Ond mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu’r targed.

“Tra bod nifer o’r prif brifysgolion – gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt – yn dweud eu bod nhw’n cydnabod Bagloriaeth Cymru, mae’r ffigurau hyn yn awgrymu nad ydyn nhw’n ystyried bod y cymhwyster gyfwerth â chymhwyster Safon Uwch.”

 Ychwanegodd ei fod yn “gofidio bod ysgolion yn rhoi pwysau ar fyfyrwyr i ddilyn Bagloriaeth Cymru drwy roi’r targedau hyn iddyn nhw”.

Gallai hynny, meddai, “dynnu sylw dysgwyr oddi ar ennill y graddau sydd eu hangen arnyn nhw i gael mewn i brifysgolion elit”.

Dywedodd fod 10% yn llai o fyfyrwyr wedi cael lle ym mhrifysgolion Grŵp Russell eleni, a bod hynny’n “bryder”.

“Dylai Llywodraeth Cymru ddiddymu ei tharged ar frys,” ychwanegodd.

Casnewydd

Mae Aelod Cynulliad UKIP tros Dde-ddwyrain Cymru, Mark Reckless wedi ysgrifennu llythyr yn gofyn i ysgol uwchradd yng Nghasnewydd eithrio myfyriwr sydd wedi gwneud cais am le yng Nghaergrawnt o Fagloriaeth Cymru.

Dywedodd nad yw targed Llywodraeth Cymru yn “helpu myfyrwyr”.