Majida Ali, newyddiadurwraig sydd wedi ffoi o Syria, Llun: Y Byd ar Bedwar
Mae nain o ogledd Cymru yn dweud ei bod hi wedi ei syfrdanu o weld amodau byw miloedd o ffoaduriaid sydd wedi eu dal ar ynysoedd Gwlad Groeg, a bod creisis y ffoaduriaid “dal i fynd ymlaen.”
Heno, mewn rhaglen arbennig o’r Byd ar Bedwar o ynysoedd Gwlad Groeg, mae Caron Dukes o Flaenau Ffestiniog wedi bod nôl ar ynysoedd Leros a Samos, ddwy flynedd wedi’r mewnlifiad enfawr o ffoaduriaid a fu yn 2015 pan oedd miloedd yn ffoi yn ddyddiol ar draws y dŵr o Dwrci – a hithau yno yn gwirfoddoli ei chymorth. Ond mae’n dweud nad yw’r sefyllfa ddim gwell heddiw.
“Maen nhw wedi troi Groeg yn wersyll ffoaduriaid enfawr, a dyw hynny ddim yn deg,” meddai.
“Carchardai”
Mae dros ddeng mil o ffoaduriaid wedi eu dal ar ynysoedd Gwlad Groeg ar hyn o bryd, nifer ohonyn nhw wedi bod yno am fisoedd, a rhai ers dros flwyddyn. Mae’r gwersylloedd wedi eu creu fel canolfannau dros dro er mwyn derbyn a chofrestru ffoaduriaid, ond erbyn hyn mae nifer o ffoaduriaid yn cyfeirio atyn nhw fel “carchardai” ac yn poeni am amodau yno.
Un o’r rheiny yw Majida Ali, newyddiadurwraig 40 oed o Syria. Mae’n dweud ei bod hi wedi ffoi o Damascus ar ôl cael ei herlid gan awdurdodau’r Arlywydd Assad, ac wedi cyrraedd ynys Samos ym mis Ebrill eleni.
“Fe adawais i un carchar er mwyn cyrraedd un arall,” meddai.”Yr un iwnifforms, yr un gweiddi, yr un wynebau. Dim dyngarwch, dim parch, dim byd.”
Pryderon
Mae’r gwersyll ffoaduriaid yn Samos yn gwegian gan orboblogi ar hyn o bryd, ac mae hyd at 300 o ffoaduriaid wedi gorfod mynd i fyw mewn pebyll tu allan i ffiniau’r gwersyll, rhai heb ddim ond blancedi’n gysgod. Yn swyddogol, mae lle i 700 o bobol yn y gwersyll, ar hyn o bryd mae dros 2,000 o ffoaduriaid ar yr ynys.
Ym mis Mawrth 2016, fe benderfynodd yr Undeb Ewropeaidd atal ffoaduriaid rhag croesi ffiniau Groeg i’r cyfandir, a dod i gytundeb â Thwrci i blismona mwy ar y môr er mwyn lleihau nifer y ffoaduriaid i Ewrop. Ond yn y misoedd diwethaf mae’r nifer sy’n glanio ar ynysoedd Groeg wedi codi eto, o 1,156 ym mis Ebrill eleni, i 4,866 fis Medi, ac mae’r system brosesu sydd i fod i’w galluogi i symud ymlaen o’r ynysoedd i’r tir mawr wedi bod rhy araf i ddal i fyny.
Yn ôl elusen y Samos Volunteers, sy’n gweithio ar yr ynys, mae hyn yn cael effaith mawr ar ddarpariaeth sylfaenol fel bwyd, dwr a dillad. Ond mae hefyd wedi arwain at bryderon ynglŷn â diogelwch pobol fregus yn y gwersylloedd.
Ar 26 Medi, wnaeth Pwyllgor o Gyngor Ewrop fynegi pryderon ynglŷn ag amodau o fewn y gwersylloedd, yn dweud bod y sefyllfa yn “ffrwydrol iawn” oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys gorboblogi, rhwystredigaeth o fewn y gwersyll, ac ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol.
“Trais”
Mae Majida Ali ei hun yn dweud nad yw hi’n teimlo’n ddiogel yn y gwersyll.
“Mae sawl achos o drais wedi digwydd yma, i fenywod a phlant,” meddai, “ond does neb eisiau siarad allan am y peth.
“Mae’r problemau nawr yn mynd yn waeth ac yn waeth gyda’r holl bobol yma. Mae pawb yn grac nawr gan fod y sefyllfa mor wael.”
Mae Caron Dukes yn credu y dylai Ewrop wneud mwy i helpu gyda’r argyfwng ffoaduriaid, ac mae’n flin nad yw gwledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi cwrdd â’u targedau i ailgartrefu ffoaduriaid. Daeth rhaglen dwy flynedd i ailgartrefu ffoaduriaid yn Ewrop i ben fis diwetha’, ar ôl ailgartrefu llai na phumed ran o’r 160,000 o ffoaduriaid a addawyd.
“Dwi’n deall bod yn rhaid cael system brosesu, ond mae’n rhaid bod yna ffyrdd o gyflymu pethau er mwyn cael teuluoedd allan o’r sefyllfa yma.
“Beth fysa’n digwydd petai’r esgid ar y droed arall? Fyswn ni’n disgwyl i bobol ein helpu ni. Gwnewch be ydach chi fod i wneud fel pobol, dros bobol eraill.”
Y Byd ar Bedwar, heno (nos Fawrth, 17 Hydref) 9.30yh ar S4C