Aneurin Bevan
Fe fydd cynhyrchiad am fywyd y Cymro wnaeth sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn agor yn swyddogol fis nesaf.
Testun Nye & Jennie fydd y berthynas rhwng Aneurin Bevan a’i wraig, Jennie Lee, dau ffigwr blaenllaw yn hanes sosialaeth gwledydd Prydain.
Bydd y cynhyrchiad yn ymdrin â’r cwpwl dros gyfnod hir: o’r dyddiau cynnar pan oedd y ddau ond yn ffrindiau mewn fflat hyd at farwolaeth Aneurin Bevan.
Theatr na nÓg a Hamdden Aneurin sydd yn gyfrifol am y cynhyrchiad fydd yn agor yn Y Metropole yn Abertyleri, ar Dachwedd 15 – dyddiad geni Aneurin Bevan 120 mlynedd yn ôl.“Roeddwn am adrodd y stori am ddau unigolyn hynod yma, y ddau o darddiadau gostyngedig yn llwyddo i newid bywydau pobol gyffredin,” meddai Geinor Styles, cyfarwyddwr Nye & Jennie a Chyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg.