Y Bala
Mae teyrngedau’n cael eu rhoi heddiw i fathemategwr, cyn-brifathro a bardd o’r Bala.
Bu farw Iwan Bryn Williams ddoe (dydd Mawrth). Roedd yn fab i’r Prifardd a’r meuryn W D Williams.
Ac wrth gofio’r dyn a ddaeth yn brifathro Ysgol y Berwyn yn y 1970au, mae cynghorydd a chyd-fardd o’r dref yn sôn am “ddyn hoffus” a “meddyliwr craff”.
“Oedd o o hil beirdd,” meddai Elwyn Edwards wrth golwg360. “Roedd ei dad o’n fardd, roedd ei ewythr yn fardd, ac mae ei frawd o’n fardd hefyd.
“Oedd o’n ddyn hoffus, yn hawdd iawn i wneud efo fo,” meddai wedyn. “Ac, roedd o’n fardd da o hil gerdd go iawn… Roedd o’n feddyliwr craff, doedd o ddim yn awdlwr o gwbwl, ond yr englyn oedd ei faes o. Yr englyn oedd o’n licio.”
Mae Elwyn Edwards yn nodi mai “mathemategwr” oedd Iwan Bryn Williams cyn popeth, ac yn awgrymu bod ôl hyn ar ei waith cynganeddol. Fe gafodd yr athro gryn sylw unwaith am greu ‘peiriant cynganeddu’ er mwyn ceisio denu pobol ifanc at yr hen grefft o drin geiriau.
Erbyn heddiw, mae arwyddion fod y teulu’n dilyn yn ôl ei droed. Mae ei ddwy ferch bellach yn dysgu yn Ysgol y Berwyn, ac mae ei ŵyr wedi dechrau ymhel â barddoniaeth, meddai Elwyn Edwards.
Ei dad, W D Williams, oedd awdur yr englyn gras bwyd, “O Dad, yn deulu dedwydd…”
Roedd yn frawd i Iolo Wyn Williams a Nia Powys Cooke.