El Capitan (Mike Murphy GNU 1.2)
Dringwr o Gymru yw’r dyn a gafodd ei ladd gan gwymp creigiau yn yr Unol Daleithiau ddydd Mercher.
Mae’r awdurdodau ym Mharc Cenedlaethol Yosemite yn dweud mai Andrew Foster yw ei enw a’i fod yn 32 oed.
Mae ei wraig yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl y ddamwain pan syrthiodd 1,000 o dunelli o wenithfaen ar eu pen.
Mae’n ymddangos bod y ddau yn cerdded wrth waelod craig enwog El Capitan pan ddaeth y darn anfertho graig yn rhydd.
‘Sŵn mawr’
‘Yn ôl llygad dystion, roedd yna sŵn mawr wrth i’r graig 40 metr wrth 20 metr syrthio 200 metr.
Yn ôl un o’r wardeniaid, doedd hi ddim yn glir beth oedd y cwpl Cymreig yn ei wneud ond mae’n bosib eu bod yn dechrau dringo’r graig.
Andrew Foster yw’r dyn cynta’ i gael ei ladd yn y Parc ers pedair blynedd ond fe gafodd dyn arall ei anafu mewn cwymp arall o greigiau ddoe.