Map Gŵyl y Cynhaeaf, Aberteifi (Llun: Idris a Beryl Mathias ©)
Mae gŵyl ddiwylliannol yn nhref Aberteifi yn dilyn trywydd gwahanol eleni, yn ôl un o’r trefnwyr -Steffan Phillips o’r dref.
Fe gafodd Gŵyl y Cynhaeaf ei sefydlu’r llynedd i nodi hanner can mlynedd ers i’r Prifardd Dic Jones ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1966 am ei awdl ‘Y Cynhaeaf’.
Ond mae’r ŵyl eleni’n canolbwyntio ar draddodiadau lleol wedi i fap arbennig gael ei greu yn canolbwyntio ar enwau lleol yr ardal.
“Mae Aberteifi yn dref eithaf Cymreig… ond mae Gŵyl y Cynhaeaf yn ffordd dda i ddod â’r holl bethau hynny at ei gilydd,” meddai Steffan Phillips wrth golwg360.
Esboniodd fod gweithgareddau’r ŵyl wedi’u seilio o gwmpas map arbennig a grëwyd gan Idris a Beryl Mathias o Aberteifi, a’u bod yn clymu “digwyddiadau lleol gyda rhai cenedlaethol” – wrth i Brifardd Eisteddfod Genedlaethol 2017, Osian Rhys Jones, drafod ei awdl fuddugol.
Arlwy’r ŵyl
Mae Steffan Phillips, sy’n gynhyrchydd llawrydd, hefyd yn gyfrifol am drefnu’r daith farddol nos Wener (Medi 29) lle bydd pum bardd lleol yn darllen cerddi wedi’u hysbrydoli gan afon Teifi.
Mae beirdd ‘Taith y Dablen’ yn cynnwys Iwan Teifion Davies, Ffion Haf Williams, Ffion Morgan, Miriam Elin Jones a Steffan Gwynn.
Yn ogystal, mae Talwrn y Beirdd arbennig yn cael ei chynnal heno (Medi 28) rhwng tîm yr Arglwydd Rhys (Idris Reynolds, Philippa Gibson, Dai Rees Davies a Terwyn Tomos) a thîm y Glêr (Eurig Salisbury, Osian Rhys Jones, Hywel Griffiths ac Iwan Rhys).
Ac i gloi mae’r ŵyl wedi trefnu gig yng nghwmni Y Niwl, Lowri Evans a Lee Mason, Gwilym Bowen Rhys a’r Welsh Whisperer.
Dyma glip o Steffan Phillips yn esbonio ystyr y gair ‘dablen’ sy’n air tafodieithol am feddwi…