Robson Green, cyflwynydd Coastal Lives (Llun: ITV)
Mae perchennog cwmni adeiladu o Ynys Môn yn beio rhaglenni teledu anwybodus am ddenu pobol ddi-Gymraeg i’r ardal i fyw – a thrwy hynny yrru pobol leol oddi yno.
Mae Oswyn Williams yn berchen ar gwmni adeiladu Glyndwr Services, ac yn honni fod Cymry Cymraeg yr ardal wedi cael “llond bol” ar effaith y rhaglenni yma.
Daw ei sylwadau yn dilyn pennod ddiweddaraf rhaglen Robson Green’s Coastal Lives a ddarlledwyd ar ITV neithiwr (nos Fawrth, Medi 19), lle bu’r actor a’r cyflwynydd yn ymweld â llefydd ym Môn – ond heb gyfweld yr un Cymro Cymraeg na hyd yn oed gyfeirio at fodolaeth yr iaith Gymraeg.
“Dw i’n gweld y rhaglenni yma – gan gynnwys hon neithiwr – maen nhw’n portreadu pentrefi bach yn Sir Fôn ac wedyn maen nhw’i gyd yn dod yma i fyw a phrynu’r tai i gyd,” meddai Oswyn Williams wrth golwg360.
“Mae gynnon ni ffordd unigryw o fyw, y Cymry Cymraeg, ond dydi hynny byth yn cael ei gyfleu nac ydi? Dylai bod Cymry Cymraeg yn sylfaen i’r rhaglen. Mae Ynys Môn dal yn lle reit Gymraeg.”
Y sefyllfa dai
Yn ôl yr adeiladwr, mae tai yn Aberffraw bellach yn costio, ar gyfartaledd, £200,000 – o gymharu â £50,000 ddegawd yn ôl. Yn Rhosneigr, mae’r ffigur yn £600,000.
“Oes ewch chi i ‘Berffro yn y gaeaf, does yna ddim pobol leol yna mwyach,” meddai Oswyn Williams. “Tai gwag. Does dim ysgol yna. Mae pobol leol wedi bod yn symud oddi yna.
“Pam? Achos dydyn nhw ddim yn medru fforddio prynu tai. Mae Saeson yn mynd yna ac yn talu prisiau gwirion… mae’r pres ganddyn nhw.
“Dydi’r rhaglenni yma ddim yn helpu o gwbwl,” meddai wedyn. “Mae’n dangos faint o le neis sydd gynnon ni ac maen nhw’n dod lawr fan hyn i fyw. Rydan ni’n sâl rwan, ni’r Cymry Cymraeg. Rydan ni wedi cael llond bol.”
Mae golwg360 wedi gofyn i gwmni cynhyrchu Robson Green’s Coastal Lives am ymateb.