Mae un o heddluoedd Cymru wedi cadarnhau y bydd mwy o blismyn ar y strydoedd yn dilyn yr ymosodiad brawychol ar dren yn Parsons Green, Llundain, ddoe (dydd Gwener, Medi 15) – ond na fydd milwyr yn cael eu defnyddio i warchod y cyhoedd ar hyn o bryd.

Yn ol datganiad gan Heddlu Dyfed-Powys, sy’n cydymdeimlo â phlismyn prifddinas Lloegr a’r Heddlu Trafnidiaeth a fu’n rhaid delio â’r gyflafan yn Llundain, fe fyddan nhw’n ceisio cadw pobol yn ddiogel trwy gydweithio â heddluoedd eraill ledled gwledydd Prydain.

“Fel y lluoedd eraill,” meddai Dyfed-Powys, “fe fyddwn ni’n patrolio mwy. Fe fydd y cyhoedd hefyd yn gweld, mewn rhai mannau ac mewn ambell ddigwyddiad, heddlu arfog ar waith.

“Does yna ddim bwriad i ddod â milwyr i’n hardal ni, ar hyn o bryd.”

Y cyngor, meddai Heddlu Dyfed-Powys, ydi i bawb fod ar ei wyliadwraeth, ac i gysylltu â’r gwasanaethau brys ar y rhif 999s ydyn nhw’n gweld unrhyw beth amheus.