Perchnogion Tafarn Sinc (Llun: Cris Tomos)
Mae un o gynghorwyr Sir Benfro wedi erfyn
ar aelodau’r cyhoedd i gyfrannu at ymgyrch cymunedol i achub tafarn yn ei sir.

Mae Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ger Maenclochog wedi bod ar werth ers mis Ionawr a hyd yma mae £130,000 wedi cael ei godi trwy werthiant  650 o gyfranddaliadau.

Nod y grŵp sydd yn ymgyrchu dros y dafarn yw codi £295,000 erbyn Hydref 28 pan fydd y perchnogion Hafwen a Brian Davies yn gadael wedi 25 blynedd wrth y llyw.

Buddsoddi mewn cymunedau

“Rydym ni’n erfyn ar unrhyw un sydd â diddordeb sicrhau cadw’r tafarn yn nwylo’r gymuned, i fuddsoddi,” meddai’r Cynghorydd Sir leol ac aelod o’r ymgyrch, Cris Tomos, wrth golwg360.

“Rydym ni’n cadw’r ffydd ein bod ni’n mynd i gyrraedd y targed, ond rydym ni’n ddibynnol iawn ar unigolion sydd wedi am gefnogi a chadw’r dafarn. Felly rydym yn ennyn gymaint y gallwn ni ar bobol i fuddsoddi. Does dim byd yn bendant.

“Dewch i ni fuddsoddi yn ein cymunedau a dewch i ni wireddu bod buddsoddwyr a phobol ein bröydd yn cael llog da yn ôl o fuddsoddi busnesau lleol.”

Codi arian

Mae’r grŵp sydd yn ymgyrchu dros y tafarn wedi nodi sawl targed maen nhw am wireddu, ac ar hyn o bryd maen nhw’n anelu i godi £200,000 erbyn Medi 30.

Gobaith y grŵp yw codi £375,400 yn y pendraw . Dyma’r ffigwr y cewch os ydych yn lluosi’r dyddiad cafodd y tafarn ei agor sef 1877, gyda phris y cyfranddaliadau sef £200.

Mae cynllun cyfoedion i gyfoedion – peer to peer lending– eisoes wedi ei lansio i godi mwy o arian -mae’r grŵp yn chwilio am 20 o bobol i roi benthyg £5,000 dros dair blynedd.