Bydd baner Owain Glyndŵr yn cyhwfan y tu allan i’r Cynulliad am y tro cyntaf erioed fory er mwyn nodi diwrnod dathlu’r tywysog.

Daw’r penderfyniad ar ôl i’r Aelod Cynulliad Adam Price anfon cais at y Llywydd, Elin Jones, yn gofyn am gael chwifio’r faner.

Mae’r diwrnod eleni yn nodi 617 o flynyddoedd ers i Owain Glyndŵr gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru yn y frwydr i sefydlu Senedd i Gymru.

“Wrth i ni agosáu at 20 mlynedd ers i bobol Cymru bleidleisio i greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym yn wynebu cyfres o heriau wrth amddiffyn integriti datganoli,” meddai Adam Price.

“Byddai hedfan baner Owain Glyndŵr y penwythnos hwn yn gydnabyddiaeth briodol, dw i’n meddwl, i’w weledigaeth i Gymru hunanlywodraethol, yn rheoli ei thynged ei hun.

“Mae hynny’n rhywbeth sydd wedi cael ei gyflawni rhywfaint gan ddatganoli, ond mae’n ein hatgoffa ni ei fod yn rhywbeth sy’n mynnu ymdrech wrthym ni i gyd 617 o flynyddoedd ar ôl cael ei orseddu’n Dywysog Cymru.”