Mae bwriad i greu cadwyn ddynol o amgylch y Cynulliad ym Mae Caerdydd ddydd Sul.

Bydd y gwrthdystiad yn rhan o benwythnos Annibynŵyl – Indyfest mudiad YesCymru yn galw am annibyniaeth.

Bydd y gadwyn ddynol yn cael ei chreu er mwyn mynd yn erbyn yr hyn mae YesCymru yn ei ddisgrifio fel ymgais y Ceidwadwyr yn San Steffan i dynnu pwerau oddi ar y Cynulliad wedi Brexit.

“Roedd pobl Cymru wedi’u hollti ar fater Brexit, gyda nifer o genedlaetholwyr a chefnogwyr datganoli yn pleidleisio ar naill ochr neu’r llall yn y refferendwm,” meddai disgrifiad y digwyddiad.

“Ond wnaeth neb bleidleisio i weld Brexit yn cael ei ddefnyddio fel ceffyl Troea gan y Torïaid i ddwyn pŵer oddi ar Gymru.

“Mae’n amser i ni ddilyn esiampl pobl Catalwnia a dangos ein hochr ac amddiffyn ein gwlad.”

Dulliau newydd

Bydd digwyddiadau Annibynŵyl yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Chaernarfon fory [dydd Sadwrn], sef ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr.

Yn ôl y trefnwyr, mae’n rhaid meddwl mewn “termau hollol newydd” er mwyn ennill annibyniaeth i Gymru.