Llys yr Ynadon Westminster
Bydd dyn o Bowys ynghyd â dau arall o Brydain yn ymddangos gerbron Llys yr Ynadon Westminster heddiw wedi’u cyhuddo o droseddau brawychol.

Mae’r tri wedi’u cyhuddo o fod yn aelodau o’r grŵp adain dde eithafol sydd wedi’i wahardd ym Mhrydain, sef National Action.

Yn eu plith mae’r milwr Mikko Vehvilainen oedd wedi’i leoli yng ngwersyll Pontsenni, Aberhonddu.

Mae’r gŵr 32 oed wedi’i gyhuddo o fod â dogfen yn ei feddiant sy’n cynnwys gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol at frawychiaeth ynghyd â chyhoeddi deunydd ar wefan sy’n “fygythiol, ddilornus neu’n sarhaus”.

Mudiad wedi’i wahardd

Y dynion eraill fydd yn ymddangos yn y llys heddiw fydd Alexander Deakin, 22 oed, o Birmingham a Mark Barrett, 24 oed, oedd wedi’i leoli yng Nghyprus.

Cafodd y tri eu harestio’r wythnos diwethaf ac, yn ôl Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, roedd yr arestio wedi’i gynllunio dan arweiniad cudd-wybodaeth a does “dim risg i ddiogelwch y cyhoedd.”

Cafodd dau ddyn o Northampton ac Ipswich eu rhyddhau heb gyhuddiadau ddydd Sadwrn yn dilyn ymholiadau.

Mae’r mudiad National Action wedi’i wahardd dan gyfreithiau brawychiaeth Prydain ers mis Rhagfyr 2016 ac mae’n cael ei ddisgrifio gan y Swyddfa Gartref yn “eithafol, hiliol, gwrth-semitaidd a homoffobig.”