Prifysgol Bangor
Wystrys fydd yn cael sylw cynhadledd pedwar diwrnod o hyd sydd wedi dechrau ym Mangor heddiw.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ac mae disgwyl y bydd ystod eang o arbenigwyr sydd yn gysylltiedig â’r maes yn cymryd rhan.
Ymysg testunau cyflwyniadau a’r pynciau fydd yn cael eu trafod mae cynhyrchiad cynaliadwy, cynaladwyedd amgylcheddol, hylendid pysgod cragen ac atal heintiau wystrys.
Bydd y gynhadledd yn cyhoeddi llyfr o ryseitiau wystrys ac mi fydd aelodau Cymdeithas Wystrys y Byd yn cael eu hannog i gyfrannu iddo.
Ymysg yr arbenigwyr fydd yn cynnal darlithoedd bydd yr Athro Brian Bayne, a’r Athro Michael Crawford – a fydd yn trafod y cysylltiad rhwng bwyd y môr ac iechyd meddwl.