Derwen Brimmon yn y Drenewydd a gafodd ei dewis i gynrychioli gwledydd Prydain y llynedd
Mae aelodau’r cyhoedd wedi cael eu hannog i bleidleisio am eu hoff goeden, wrth i restrau byr cystadleuaeth flynyddol Coeden y Flwyddyn, gael eu cyhoeddi.
Mae 28 coeden yng ngwledydd Prydain wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer gan gynnwys chwe choeden o Gymru.
O blith y coed yma mi fydd coeden yn cael ei ddewis i gynrychioli gwledydd Prydain yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn 2018.
Y llynedd, cafodd Derwen Brimmon yn y Drenewydd ei dewis i gynrychioli gwledydd Prydain, a llwyddodd i ddod yn ail yn y gystadleuaeth â dros 1,600 pleidlais.
Dyma’r canlyniad gorau hyd yma, ar gyfer unrhyw goeden o’r Deyrnas Unedig.
Coed yn “bwysig”
“Unwaith eto, mae’r cyhoedd wedi enwebu sawl coeden ffantastig â straeon ysbrydoledig, sydd yn amlygu pa mor bwysig mae coed ym mywydau pobol,” meddai Prif Weithredwr Coed Cadw, Beccy Speight.
“Mae hyn yn ein hatgoffa ni ynglŷn â pham bod angen i ni ofalu am goed unigol, a bod o hyd angen eu diogelu yng nghyfraith gwlad rhag datblygiadau a chamreolaeth.”
Yr enwebiadau o Gymru
- Coeden Tŷ’r Tylwyth Teg, Llansadwrn, Ynys Môn
- Y Goeden Wag, Castell-Nedd Port Talbot
- Yr Ywen Waedlyd, Nanhyfer, Sir Benfro
- Ywen y Pwlpit, Nantglyn, Sir Ddinbych
- Coeden Goch Anferthol, Llangatwg, Powys
- Coeden Goch Arfordir Bodnant, Conwy