Mae trigolion sydd wedi eu heffeithio gan beryglon tirlithriadau yn Ystalyfera, wedi dweud wrth
golwg360 nad ydyn nhw ddim callach wedi cyfarfod cyhoeddus neithiwr i drafod y mater.

Fe wnaeth criw gynnal protest yn y cyfarfod â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, yn galw am dryloywder ar beth y mae’r Cyngor yn bwriadu ei wneud nesaf.

Dywedodd Morganne Bendle, aelod o un o’r deg teulu sydd wedi eu gorfodi o’u cartrefi ar Heol Cyfyng yn y dref, fod y cyfarfod wedi bod yn “wastraff amser llwyr”.

“Roedd e’n gyfarfod i ddweud wrthom ni bod nhw ddim yn gwybod be’ i wneud nesa’ a bod nhw ddim yn gwybod be’ sy’n digwydd,” meddai wrth golwg360.

“Roedden nhw jyst yn dweud bod nhw’n cynnal profion nawr [ar y tir] ond dylen nhw fod wedi cynnal profion blynyddoedd yn ôl.

“Does ganddyn nhw ddim pethau ar gael yn barod fel dogfennau a reports ac ati ar gael i ni. Dylen nhw gael pethau fel yna yn barod.”

Rhwystredigaeth yn y cyfarfod

Roedd y neuadd ysgol lle gafodd y cyfarfod ei gynnal yn orlawn, gyda thua 200 o bobol wedi ymgynnull i glywed y diweddaraf gan y cyngor sir.

Fe gafodd rhagor o bobol wybod y gallai eu tai fod mewn peryg oherwydd llithriadau tir yng Nghwm Tawe, gyda hyd at 60 o dai eraill mewn ardal risg uchel.

Yn ôl Morganne Bendle, roedd teimladau cryfion, gyda phobol yn teimlo’n rhwystredig iawn gyda “diffyg gwybodaeth” y cyngor.

 “Achos roedden nhw’n methu rhoi atebion i ni, roedd hwnna jyst yn gwneud i bobol deimlo’n fwy crac.

“Dywedon nhw bod angen asesu risg a hazard ac ati ond dydyn nhw methu gwneud hwnna eto achos dydyn nhw ddim yn gwybod pa mor ddiogel yw e’, felly dydyn nhw ddim yn gwybod os maen nhw’n gallu dod â phobol mas yna.

“Y cwbl maen nhw wedi dweud bod angen iddyn nhw wneud ‘hyn, hyn a hyn’ ond bod nhw methu gwneud e’ … ac wedyn dydyn nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dyna’r gist rydyn ni wedi cael.”

Wedi wythnosau mewn llety gwely a brecwast ac aros gyda pherthnasau, mae Morganne Bendle a’i theulu bellach wedi cael llety gan y cyngor ond does dim digon o le i bawb yno.

“Mae e’n fach, gyda’r pedwar ohonom ni a’r ddau gi yma. Mae’r brawd arall methu dod gyda ni. Dim ond three bedroom yw e so mae mam yn cysgu ar sofa bed ar hyn o bryd yn yr ystafell fyw.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.