Streic gweithwyr iechyd (Llun: PA)
Fe fydd gweithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru yn dal i gael streicio, er bod rheolau llymach yn dod i rym ddydd Iau (Medi 7).

Yn ôl Deddf Undebau Llafur y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i 40% o weithlu bleidleisio o blaid streic bellach cyn ei bod yn gyfreithlon.

Ond dan Ddeddf yr Undebau Llafur (Cymru) gan Lywodraeth Cymru, fe fydd gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus datganoledig Cymru wedi eu heithrio o’r rheol sy’n effeithio ar weddill gweithwyr gwledydd Prydain.

Bydd hyn yn effeithio gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, addysg, llywodraeth leol a’r gwasanaeth tân, yn benodol.

Bydd y ddeddf yn derbyn cydsyniad brenhinol heddiw (dydd Iau).

“Datrys anghydfodau”

“Ddylen ni byth fod wedi cael ein rhoi mewn sefyllfa lle’r oedd yn rhaid inni gyflwyno deddf yng Nghymru er mwyn datgymhwyso rhannau o un o ddeddfau’r Deyrnas Unedig,” meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.

“Ond nid oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon derbyn bod hwn yn faes cyfrifoldeb sydd wedi’i ddatganoli.

“Dw i’n falch y bydd gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i gael eu diogelu,” meddai wedyn, “ac fe fyddwn ni’n parhau i ddod â Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a’r undebau llafur at ei gilydd i ddatrys anghydfod.”