O'r chwith: Y brodyr Pete a Danny Cameron.
Mae jin dau frawd yng nghanolfan grefft Corris wedi’i enwi’r jin gorau i gael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain yng Ngwobrau Bwyd Gorau Prydain 2017.

Dim ond y llynedd wnaeth Pete a Danny Cameron sefydlu eu distyllfa a dechrau cynhyrchu’r gwirodydd dan yr enw Distyllfa Dyfi.

Maen nhw eisoes wedi ennill gwobr papur newydd The Independent am y jin newydd gorau yn 2017, ac mae Danny Cameron yn cael ei adnabod yn arbenigwr rhyngwladol yn y diwydiant diod.

Mae Pete Cameron wedi byw a gweithio yng nghanolbarth Cymru ers 35 mlynedd, ac mae’r ddau yn casglu’r cynhwysion ar gyfer y jin o gwmpas Dyffryn Dyfi – ardal sydd wedi’i gydnabod â statws Gwarchodfa Biosffer y Byd UNESCO.

“Mae wedi bod yn dipyn o flwyddyn,” meddai Danny Cameron. “Rydym wedi bod mor brysur yn ceisio dal i fyny gyda’r galw fel nad ydyn ni wedi cael y cyfle i ystyried y cyfan.”