Aberaeron
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau wrth golwg360
eu bod nhw wedi derbyn cwyn am fflôt ‘hiliol’ yng ngharnifal Aberaeron ddydd Llun.

Roedd pryderon wedi’u codi yn dilyn y digwyddiad blynyddol ar ôl i fflôt ail-greu golygfa allan o’r ffilm Cool Runnings, a nifer o bobol wedi lliwio’u hwynebau’n ddu.

Mae’r ffilm yn trafod hanes pedwar o gystadleuwyr bobsledio o Jamaica sy’n ceisio cyrraedd Gemau Olympaidd y gaeaf yn erbyn y ffactorau.

‘Ffieiddio’

Mewn neges ar Facebook, dywedodd Dinah Mulholland, ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngheredigion yn yr etholiad cyffredinol eleni, ei bod hi “wedi ffieiddio” o weld y fflôt.

Roedd hi wedi galw ar Elizabeth Evans, cynghorydd lleol Aberaeron tros y Democratiaid Rhyddfrydol, i gondemnio’r weithred.

“Sut ar wyneb y ddaear all hyn fod wedi cael ei dderbyn, neu fod yn gyfreithlon, gan drefnwyr y carnifal?” meddai ar Facebook.

Heddlu

Pan ofynnodd golwg360 am gadarnhad bod cwyn wedi cael ei chyflwyno, dywedodd llefarydd: “Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys gwyn o ddigwyddiad casineb honedig, a ddigwyddodd yng Ngharnifal Aberaeron ddydd Llun, Awst 28.

“Roedd un o’r cystadleuwyr ym mharêd y carnifal yn cael ei ystyried yn un hiliol.

“Mae swyddogion lleol yn cynnal ymchwiliad.”

Dyw’r trefnwyr ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.