(Llun: Pinewood Studio Wales)
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgelu fod cwmni ffilm Pinewood wedi rhentu safle gwerth £5m gan Lywodraeth Cymru am ddim am ddwy flynedd.

Yn 2015, fe agorodd stiwdios Pinewood ar les gan Lywodraeth Cymru yn ardal Llaneirwg, Caerdydd.

Ond mewn cyfres o lythyron rhwng arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau na chafodd unrhyw rent ei dalu tan fis Ionawr 2017.

Mae Ken Skates yn nodi mai ond 50 o swyddi newydd sydd wedi’u creu hyd yn hyn er bod adroddiadau ar y pryd y gallai’r cynllun greu hyd at 2,000 o swyddi.

‘Gorliwio’

Mae un o Aelodau Cynulliad y Ceidwadwyr, Suzy Davies, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “orliwio” effaith economaidd Pinewood i Gymru.

“Hyd yn hyn mae stiwdios Pinewood wedi talu 18% o werth rhent y safle – a brynwyd gan Lywodraeth Cymru am £5.25m – [sy’n] dangos fod gan Lywodraeth Cymru ychydig neu ddim diddordeb i ddigolledu’r buddsoddiad cyhoeddus,” meddai Suzy Davies.

“Oni bai bod y safle yn dod yn fwy proffidiol, mae peryg go iawn y bydd Pinewood yn dewis gweithredu’r cymal ymadael a gadael Cymru gan fynd â chloddfa o botensial economaidd heb ei gyffwrdd.”

‘Falch o’r buddsoddiad’

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “falch o’n buddsoddiad yn Pinewood sydd wedi gweld effaith gadarnhaol ar economi Cymru.”

Dywedodd fod Pinewood wedi “gweithio’n agos” gyda Llywodraeth Cymru a’r diwydiant darlledu i ddod â chynyrchiadau eraill i Gymru.

“Tair blynedd i mewn i’r cytundeb gyda Pinewood rydym yn gweld manteision go iawn,” ychwanegodd.

Dywedodd fod y ffilm sydd newydd ei ryddhau ganddyn nhw Their Finest yn anelu at elw o $8.8m ledled y byd ac am hynny  “fod Llywodraeth Cymru wedi adennill ei fuddsoddiad yn llawn ac yn derbyn cyfran elw pellach a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i sector greadigol Cymru.”

Yn yr ohebiaeth mae Ken Skates yn egluro mai £546,876 yw gwerth rhent blynyddol y safle a bod cyfnod rhent am ddim yn rhywbeth sydd “yn gyson ag arferion y farchnad.”