Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio, wedi i gorff dyn gael ei ganfod ar draeth ger Y Barri.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth Porthceri tuag amser cinio ddydd Sul (Awst 27).

Roedd yr heddlu, y gwasanaethau ambiwlans a gwylwyr y glannau wedi ymateb i’r alwad.