Llun: Liam Ellis
Mae graffiti o farddoniaeth Gymraeg i’w weld ar rai o strydoedd y brifddinas… ond mae yna ddirgelwch ynglyn â phwy sy’n gyfrifol am chwistrellu’r geiriau ar waliau.
Yn ôl Liam Ellis, sy’n byw yng Nghaerdydd, mae’r farddoniaeth ar Ffordd y Ddinas yn Y Rhath – ardal sy’n enwog am ei dewis o fwytai a siopau o wahanol lefydd dros y byd.
Mae’r ddwy enghraifft ddiweddaraf yn cynnwys darnau o waith Mererid Hopwood a Gwyn Thomas.
Fe sylwodd Liam Ellis ar y gwaith ddiwedd mis Gorffennaf, ond does neb, hyd yma, i weld yn gwybod pwy na phryd yn union y cafodd y cerddi eu chwistrellu ar y waliau.
Mae un person ar Twitter wedi cymharu’r gwaith gyda’r artist dirgel byd-enwog o Fryste, Banksy.
Dyma’r darn sydd wedi’i dynnu o waith y diweddar Gwyn Thomas, a fu farw ym mis Ebrill y llynedd…
Yr holl bobol yma ar y stryd / Mae’n siŵr gen i eu bod / Yn meddwl mai nhw / Bob un yn unigol / Ydi’r un pwysicaf yn y byd / Yn lle eu bod nhw / Yn cydnabod, yn rhesymol / Ac yn ddiamheuol / Mai Fi ydi hwnnw
Ac mae yna graffiti arall gyda darn o gerdd Mererid Hopwood, ‘Cymylau’
Beth sy rhwng da a drwg? / Coelcerth o dân neu gwmwl mwg? / Rhwng fan hyn a fan draw / Enfys â’i gwen neu gwmwl glaw? / Rhwng tir a nefoedd wen? / Dim ond y cwmwl sy’n fy mhen.