Mae’r plasty lle cafodd rhannau helaeth o un o weithiau enwocaf Dylan Thomas, Under Milk Wood, ei hysgrifennu ar werth am £1.8 miliwn.

Mae wedi’i lleoli ym mhentref South Leigh yn Swydd Rydychen.

Mae perchnogion y plasty, Amelia a Graham McNeillie yn symud i Swydd Suffolk, ac yn gwerthu’r plasty ar ôl byw yno am 27 o flynyddoedd.

Mae pentref Talacharn yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gysylltu â’r ddrama radio a gafodd ei throi’n ffilm oedd yn serennu Richard Burton.

Ond mewn llythyr at ei rieni yn 1947 pan oedd e’n byw yn Swydd Rydychen, dywedodd Dylan Thomas ei fod e’n awyddus i ysgrifennu’r ddrama cyn diwedd y flwyddyn honno.

Mae ymchwil yn awgrymu bod hanner cynta’r ddrama wedi’i hysgrifennu yn y plasty, a’r fersiwn derfynol wedi’i chwblhau mewn gwesty yn Efrog Newydd yn 1953.

Yn yr Unol Daleithiau y bu farw yn 1953, ac yntau ond yn 39 oed.

Y plasty

Plasty Siôraidd, graddfa II, yw’r adeilad yn Swydd Rydychen, ac mae lle i gredu ei fod wedi’i adeiladu yn 1650.

Cafodd y plasty ei adnewyddu gan y perchnogion presennol, gan ei ymestyn yn sylweddol.

Mae sawl erw o dir o gwmpas y plasty, a rhai o nodweddion y 1940au yn dal yn perthyn iddo.

Cafodd ei brynu gan yr hanesydd AJP Taylor a’i wraig am £2,000 ar ran Dylan Thomas a’i wraig Caitlin ar ôl iddyn nhw droi at y pâr yn 1946, ac fe fuon nhw’n byw gyda nhw am gyfnod cyn symud i’r plasty.