Doedd yna fawr o newid yn lefelau diweithdra Cymru yn y tri mis hyd at fis Mehefineleni, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) mae 4.5% o bobol allan o waith yng Nghymru, sydd yn gwymp bach o 0.3% o gymharu â’r tri mis blaenorol.

Bellach mae 67,000 o bobol rhwng 16 a 64 yn ddi-waith yng Nghymru tra bod 72.7% o’r boblogaeth wedi eu cyflogi.

Dros y Deyrnas Unedig oll mae 4.4% yn ddi-waith tra bod 75.1% o’r boblogaeth yn gweithio – y nifer uchaf ers i gofnodion ddechrau.

“Cyfradd uchaf erioed”

“Mae’r darlun o ran y nifer o bobol sydd yn gweithio yn parhau i fod yn gryf, gyda’r gyfradd ar ei uchaf erioed a chwymp arall yn y gyfradd ddi-waith,” meddai Uwch-ystadegydd yr ONS, Matt Hughes.

“Er hyn i gyd, mae enillion yn parhau i gwympo. Mae’r nifer o weithwyr sydd wedi ei geni mewn mannau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i gynyddu, ond mae’r gyfradd newid flynyddol wedi arafu cryn dipyn.”