Leanne Wood (Llun o wefan Plaid Cymru)
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am i hanes Cymru gael ei ddysgu yn holl ysgolion Prydain.

Yn ôl Leanne Wood, mae hyn yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r “anwybodaeth cynhenid” ynghylch Cymru, ei hanes a’i hiaith.

“Byddai gwell dealltwriaeth am Gymru ymysg holl boblogaeth Prydain yn meithrin mwy o oddefgarwch a pharch,” meddai.

Fe wnaeth ei sylwadau yn sgil eitem ddadleuol am y Gymraeg ar Newsnight yr wythnos ddiwethaf, y cerflunwaith ‘cylch o haearn’ yng nghastell y Fflint, a gorchymyn y gadwyn siopau Sports Direct i’w staff siarad Saesneg yn unig.

“Mae ymdriniaeth druenus Newsnight o’r iaith Gymraeg wedi dangos anwybodaeth lwyr ynghylch ein hiaith a’n hanes,” meddai Leanne Wood.

“Addysg yw’r allwedd i fynd i’r afael â’r fath anwybodaeth. Dylai pob disgybl ledled y Deyrnas Unedig gael dysgu hanes elfennol Cymru a sylweddoli pwysigrwydd ein hiaith yn hanes yr ynysoedd hyn.

“Dw i’n gobeithio y bydd llywodraethau ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig yn ystyried y cynigion hyn fel cam tuag at feithrin mwy o barch rhwng pobl a’i gilydd.”