Mae un o gyn-benaethiaid y Llynges Frenhinol yn galw ar y Llywodraeth i gynghori dinasyddion Prydeinig i adael penrhyn Corea os bydd y tensiynau presennol yn parhau.

Dywed y Llynghesydd Arglwydd West o Spithead fod perygl gwirioneddol y gallai’r argyfwng presennol rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau arwain at ryfel niwclear.

Mae o’r farn y byddai cynghori dinasyddion Prydeinig i adael y penrhyn a Japan, sydd gerllaw, yn anfon neges i wledydd eraill fod angen gweithredu rhyngwladol i rwystro rhyfel.

“Pan gychwynnwch chi roi cyngor penodol i’ch dinasyddion mae pobl yn cymryd sylw ac efallai y bydd China ac eraill yn dweud ‘mae hyn yn wirioneddol ddifrifol’,” meddai ar Radio 4 fore heddiw.

Y cyngor presennol gan y Swyddfa Dramor i deithwyr i Ogledd a De Corea yw bod y tensiynau yn dal yn uchel, ond nid yw’n cynghori Prydeinwyr i adael.

Dywed yr Arglwydd West, fodd bynnag, fod y peryglon o ryfel yn y rhanbarth yn uwch nag ar unrhyw amser ers diwedd Rhyfel Corea yn 1952.