Mae’r gwr a fu’n croesawu ymwelwyr i gartref Hedd Wyn ar hyd y blynyddoedd, wedi awgrymu wrth golwg360 fod ysbryd y bardd i’w deimlo yn yr hen ffermdy ger Trawsfynydd.
Wrth son am gynefino â’i fywyd newydd yn y byngalo ar safle’r Ysgwrn, mae Gerald Williams yn cyfaddef nad ydi pethau cweit yr un fath ag yr oedden nhw pan oedd o’n byw yng nghartref ei daid a’i nain.
Er mor gysurus ydi ei gartref newydd, meddai, mae’n awgrymu y gallai fod yna ‘bresenoldeb’ mwy yn Yr Ysgwrn…
“Pan ydach chi’n ista o flaen y tân yn y byngalo ar noson oer ym mis Ionawr, mae’n braf,” meddai Gerald Williams, “ond pan oeddach chi’n gwneud yr un fath yn yr hen dy, oeddach chi byth ar ben eich hun.
“Mae’n anodd dweud os mai Hedd Wyn sydd yno – wnes i erioed ei nabod o, dw i ddim yn ei gofio fo,” meddai Gerald Williams wedyn. “Taid a Nain ddaru fy magu i, wrth gwrs…”
Hanes yr Ysgwrn
Ffermdy efo dau lawr a tho llechi ydi’r Ysgwrn, tua milltir y tu allan i ganol pentref Trawsfynydd. Mae’r adeilad yn dyddio’n ol i tua 1519.