Rhaid adolygu lefelau staffio carchardai yng Nghymru a Lloegr yn dilyn “ffrwydrad” dyfais mewn carchar yng Nghaerdydd, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

Daeth y digwyddiad i’r amlwg wedi i chwythwr chwiban gysylltu â’r Aelod Cynulliad, Bethan Jenkins, a chodi pryderon am broblemau lefelau staffio yng Ngharchar Caerdydd.

Yn ôl aelod staff wnaeth hefyd gysylltu â Bethan Jenkins, mae lefelau staffio mor isel gallai carcharorion “gymryd y carchar drosodd mewn deng munud” mewn sefyllfa o reiat.

Mae llefarydd ar ran Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad oedd unrhyw un wedi eu hanafu pan wnaeth “botel o hylif dirgel ffrwydro” ar Fehefin 15.

Cafodd pedwar dyn eu harestio ac mae tri ohonyn nhw yn parhau i fod dan ymchwiliad.

“Adolygiad ar frys”

“Rydym yn ymwybodol fod hon yn broblem fu’n cronni ers peth amser,” meddai Bethan Jenkins.

“Gwyddom fod prinder mawr o swyddogion carchar ar draws yr holl garchardai a bod problem gyson – a gydnabyddir gan Lywodraeth San Steffan – o ran recriwtio a chadw staff.”

“Mae’r niferoedd yn siarad drostynt eu hunain, ac ochr yn ochr â’r hyn a ddywed staff carchardai wrthyf i yn ne Cymru, mae’n amlwg fod angen mwy o weithredu gan lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

“Mae Plaid Cymru felly yn galw ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i gynnal adolygiad ar frys i lefelau staffio a diogelwch charchardai ar draws y stad carchardai.”

“Bodlon â’r mesurau”

Gan ymateb i lythyr gan Bethan Jenkins ddywedodd y Gweinidog Carchardai, Sam Gyimah, ei fod yn ymwybodol o’r ffrwydrad ac yr oedd awdurdodau wedi gofyn am “adroddiad manwl o’r hyn y digwyddodd.”

“Mae’r Cyfarwyddwr Carchardai Sector Gyhoeddus yn ne Cymru wedi adolygu’r digwyddiad a’r camau y cymerwyd, ac mae’n fodlon bod mesurau mewn grym er mwyn atal digwyddiad arall o’i fath,” meddai Sam Gyimah yn ei ymateb.