Cylch Haearn Castell y Fflint (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae’r adain o lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am warchod safleoedd hanesyddol, yn awgrymu ei bod hi’n beth da bod cynllun i greu gwaith celf yn “dathlu” cestyll Seisnig yr ochr yma i Glawdd Offa wedi ennyn cymaint o brotestio.
Mae Cadw yn cyfaddef bod y bwriad i osod ‘cylch haearn’ ar safle Castell y Fflint yn “hollti barn” ac yn “annog trafodaeth” – ac mai dyna ddylai celfyddyd ei wneud.
Daw’r datganiad yn dilyn tipyn o ddadlau ynglŷn a’r ffaith y bydd £395,000 yn cael ei wario ar gerflun sy’n cyfeirio at y gyfres o gestyll a godwyd gan Edward y 1af i ormesu’r Cymry yn ail hanner y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg.
Yn ôl llefarydd ar ran Cadw, mae hanes yn medru cael ei ddehongli mewn “nifer o wahanol ffyrdd” ac fe all cyfuno hanes, celf a daeryddiaeth yn aml arwain at “emosiynau pwerus a thanbaid”.
Mae hefyd yn mynnu mai buddsoddi yn ardal y Fflint yw bwriad y cynllun – hynny, a rhoi hwb i dwristiaeth a’r economi leol.
“Fe fydd y cerflun sydd ar y gweill yn rhoi’r cyfle unigryw i ni hyrwyddo haearn Cymru ac i adrodd straeon pwerus sy’n parhau i siapio ein bywydau heddiw,” meddai llefarydd.
“Ond, fe fyddwn ni’n parhau i wrando ar y gwahanol ddaliadau ar y prosiect pwysig hwn wrth iddo esblygu, gan wneud yn siŵr bod penderfyniadau dros faterion fel pa eiriau sy’n cael ei osod ar y cerflun yn adlewyrchu daliadau lleol a hanes cymhleth ac anodd Cymru.”
Cwmni penseiri o Loegr – George King Architects Cyf – sy’n gyfrifol am y cynllun.